Ddydd Mercher diwethaf, lansiwyd Papur Gwyn ar Drafnidiaeth Cyngor Caerdydd, sef cynllun gwerth £2bn i drawsnewid rhwydwaith trafnidiaeth Caerdydd a De-ddwyrain Cymru yn llwyr.
Mae’r adroddiad, a ddatblygwyd drwy ymgynghori â mwy na 5,000 o breswylwyr ac arbenigwyr iechyd a thrafnidiaeth, yn trafod ymgyrch y cyngor i fynd i’r afael a’r argyfwng hinsawdd, lleihau tagfeydd a gwella ansawdd aer yn y rhanbarth.
Gwnaeth Nigel Roberts, Cadeirydd Gweithredol Datblygiadau Parcffordd Caerdydd, groesawu’r cynigion: “Mae’n wych gweld Cyngor Caerdydd yn cymryd camau pwysig tuag at sicrhau mai trafnidiaeth gyhoeddus yw’r dewis cyntaf o ran trafnidiaeth ar gyfer pobl Caerdydd. Wrth i’n ffordd o fyw barhau i newid, mae’n hollbwysig ein bod yn buddsoddi mewn seilwaith newydd er mwyn cysylltu’r rhanbarth a helpu pobl i symud o amgylch yn fwy cynaliadwy.”
Mae’r cynigion yn cynnwys amrywiaeth o gynlluniau i wella seilwaith ledled y ddinas – gan gynnwys datblygu gorsaf drenau newydd, sef Parcffordd Caerdydd. Aeth Nigel yn ei flaen, gan ddweud: “Drwy adeiladu gorsaf drenau prif linell newydd yn Llaneirwg, gwneir cyfraniad sylweddol i’r gwaith o gyflawni amcanion yr adroddiad hwn, gan ddarparu seilwaith ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus yn Nwyrain Caerdydd y mae angen dybryd amdano.
“Rydym yn bwriadu dileu traffig o ganol y ddinas a helpu’r ddinas i gyrraedd ei thargedau o ran aer glân drwy ddarparu mwy nag 800,000 o deithiau’r flwyddyn. At hynny, bydd yr orsaf newydd a datblygiad ehangach Llynnoedd Hendre yn helpu i wella teithio yn yr ardal leol drwy gynnig cyfleusterau cerdded, seiclo a bws newydd, gan alluogi mwy a mwy o bobl yn Nwyrain Caerdydd i deithio heb gar.”
I gael rhagor o wybodaeth am ein cynlluniau ar gyfer trafnidiaeth yn Llynnoedd Hendre Caerdydd, ewch i dudalen Parcffordd Caerdydd.