Y mis diwethaf, cafodd datblygiad gorsaf Parcffordd Caerdydd a Llynnoedd Hendre Caerdydd ei gynnwys yn strategaeth economaidd newydd Cyngor Caerdydd i drawsnewid dwyrain Caerdydd.
Nod Llynnoedd Hendre Caerdydd, a gaiff ei wasanaethu gan orsaf drenau Parcffordd Caerdydd, yw cyfrannu’n sylweddol at adfywio dwyrain Caerdydd drwy ddod â chysylltedd, swyddi a buddsoddiad i’r ardal.
Nod Strategaeth Dwyrain Caerdydd yw creu mwy o swyddi a buddsoddiad yn nwyrain y ddinas drwy ganolbwyntio ar y meysydd allweddol canlynol:
- Datblygu cyfleoedd busnes newydd
- Gwella trafnidiaeth leol
- Cefnogi gwelliannau i seilwaith a’r amgylchedd
Mae’r strategaeth yn cynnwys amrywiaeth o ddatblygiadau cyffrous ar gyfer dwyrain Caerdydd yn ogystal â’n cynlluniau ar gyfer ardal fusnes a hyb trafnidiaeth gynaliadwy newydd yn Llaneirwg.
Wrth groesawu’r cynigion, dywedodd Nigel Roberts, Cadeirydd Gweithredol Datblygiadau Parcffordd Caerdydd: “Rydym yn falch o weld strategaeth newydd yn benodol ar gyfer llywio llwyddiant yn nwyrain Caerdydd. Nod datblygiad newydd Llynnoedd Hendre Caerdydd a gorsaf Parcffordd Caerdydd yw bod yn rhan allweddol o’r broses adfywio hon a bydd yn sicrhau amrywiaeth o fuddiannau – gan gynnwys swyddi newydd, cysylltiadau trafnidiaeth gwell a mwy o fannau gwyrdd – i’r gymuned leol a’r ardal ehangach.”
Rydym ar gamau cynnar ein cynlluniau ar gyfer Parcffordd Caerdydd a Llynnoedd Hendre Caerdydd a hoffem glywed gan y gymuned leol i ddysgu sut y gall y prosiect fod o fudd i chi.
Ewch i’n tudalen Cymryd Rhan i ddarganfod sut y gallwch leisio eich barn.