Rydym bellach wedi cyflwyno ein ceisiadau cynllunio i Gyngor Caerdydd a Chyngor Dinas Casnewydd ar gyfer Llynnoedd Hendre a gorsaf drenau Parcffordd Caerdydd.
Drwy gyrraedd y garreg filltir gyffrous hon, rydym wedi dod gam yn nes at ddod â gorsaf drenau newydd ac ardal fusnes gysylltiedig i’r rhan hon o dde Cymru, gan gysylltu pobl a busnesau, cyflawni swyddi ac annog buddsoddiad.
Cyflwynwyd ein ceisiadau yn dilyn cyfnod ymgynghori cyn-ymgeisio dros bum wythnos, a fu’n rhedeg rhwng dydd Mercher 05 Awst a dydd Mercher 09 Medi 2020, a llunio’r fersiwn derfynol o’r cynigion ar ol hynny.
Hoffem ddiolch i bawb a gymerodd ran yn y cyfnod ymgynghori ym mis Awst a mis Medi 2020, ac i’r rheini a rannodd eu barn yn ystod ein cyfnod cynnar o ymgysylltu â’r cyhoedd a gynhaliwyd yn 2019. Mae’r adborth hwn wedi ein helpu i lunio ein cynigion ac wedi dangos lefelau uchel o gefnogaeth ar gyfer buddion posibl y prosiect i’r ardal.
Cafodd y ceisiadau cynllunio eu dilysu gan Gyngor Caerdydd a Chyngor Dinas Casnewydd ac maent ar gael i’w gweld:
- Cardiff Council application (Ref: 21/00076/MJR): https://planningonline.cardiff.gov.uk/online-applications/search.do?action=simple&searchType=Application
- 3 x Newport City Council applications (Ref: 21/0029; 21/0030; 21/0031): https://licensing.newport.gov.uk/online-applications/search.do?action=simple&searchType=Application
E-bost: communityrelations@cardiffhendrelakes.com
Rhadffôn: 0800 464 0850
Rhadbost: RHADBOST LLYNNOEDD HENDRE