Gan Nigel Roberts, Datblygiadau Parcffordd Caerdydd
Fel y crybwyllwyd mewn erthyglau newyddion yn ddiweddar, mae Llywodraeth Cymru wedi penderfynu galw ein prosiect i mewn. Roedd Pwyllgor Cynllunio Cyngor Caerdydd wedi penderfynu rhoi caniatâd ym mis Ebrill. Mae’r penderfyniad i alw i mewn yn golygu y bydd Gweinidogion Cymru yn adolygu ac yn penderfynu ar ein cais cynllunio, yn hytrach na Chyngor Caerdydd.
Rydym yn siomedig ac yn rhwystredig iawn bod Llywodraeth Cymru wedi estyn y broses gwneud penderfyniadau.
Rydym wedi gweithio’n galed iawn dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf i gyflwyno cynigion ar gyfer ardal fusnes gynaliadwy ac wedi’i chysylltu’n dda gyda thrafnidiaeth gyhoeddus a theithiol llesol yn ganolog iddi. Rydym hefyd wedi gweithio’n galed gyda rhanddeiliaid allweddol ers nifer o flynyddoedd a byddai’r prosiect yn gweithredu ar argymhellion allweddol gan Gomisiwn Trafnidiaeth De-ddwyrain Cymru Burns ac Adolygiad Hendy o Gysylltedd yr Undeb.
Rydym yn hyderus bod ein cais in gadarn a byddwn yn gweithio drwy unrhyw faterion a nodir yn y cam nesaf hwn.
Rydym yn dal i fod yn gwbl ymrwymedig i gyflawni Parcffordd Caerdydd a sicrhau gwell cysylltedd, swyddi newydd a buddsoddiad i dde Cymru. Byddwn yn parhau i roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y camau nesaf i chi.