Caiff y dyluniadau diweddaraf ar gyfer Llynnoedd Hendre Caerdydd, sef ardal fusnes newydd arfaethedig i’r de o Barc Busnes Llaneirwg a gaiff ei gwasanaethu gan orsaf drenau Parcffordd Caerdydd, eu cyflwyno i’r cyhoedd heddiw (dydd Mercher 05 Awst) wrth i gyfnod ymgynghori statudol o bum wythnos ddechrau.
Nod datblygiad 90,000 metr sgwâr Llynnoedd Hendre Caerdydd, sy’n cynnwys gorsaf drenau Parcffordd Caerdydd, yw cysylltu De Cymru, gan ddod â swyddi a buddsoddiad i’r rhanbarth. Bydd y datblygiad yn cyfrannu’n sylweddol at adfywio dwyrain Caerdydd ac uchelgeisiau Prifddinas-Ranbarth Caerdydd o ran ei thwf. Mae gan y datblygiad y potensial i gefnogi hyd at 6,000 o swyddi, yn ogystal â gweithredu fel hwb trafnidiaeth, gan helpu pobl i fanteisio ar gyfleoedd cyflogaeth eraill ledled De Cymru a thu hwnt.
Gan dynnu ar y casgliadau y daethpwyd iddynt o drafodaethau â rhanddeiliaid allweddol, adborth gan y gymuned leol yn ystod cyfnod cychwynnol o weithgareddau ymgysylltu â’r cyhoedd yn 2019 a’r broses o ddatblygu’r dyluniad, mae’r cynnig yn cynnwys y nodweddion allweddol canlynol:
- Cadw’r prif rwydwaith ffosydd: Ffos Faendre, Ffos Tŷ Ffynnon a Ffos Green Lane
- Creu ‘Prif Barc’ – man cyhoeddus hygyrch, newydd i gysylltu Llaneirwg â’r datblygiad newydd
- Tiroedd cyhoeddus atyniadol, gan gynnwys Sgwâr yr Orsaf a meingefn sy’n rhedeg drwy’r datblygiad lle gall pobl gwrdd, cymdeithasu a chwarae
- Creu prif bwynt mynediad i gerbydau o’r ffordd ddeuol ar Cypress Drive yn uniongyrchol i’r orsaf, gan gadw’r prif lif traffig i ffwrdd oddi wrth breswylwyr a chalon y datblygiad
- Cysylltiadau newydd i alluogi cerddwyr a beicwyr o gymunedau cyfagos i gyrraedd a gadael y datblygiad a’r orsaf
- Coridor bywyd gwyllt gwyrdd a bysedd gwyrdd yn rhedeg drwy’r safle i greu ‘grid gwyrdd’ integredig o fewn y datblygiad, gan gysylltu cynefinoedd allweddol, rheoli dŵr a diffinio strydoedd ac ardaloedd cyhoeddus newydd
- Cyfnewidfa drafnidiaeth wrth ymyl gorsaf Parcffordd Caerdydd, gyda chyfleusterau i wasanaethau bws lleol alw yn yr orsaf, safle tacsis, lleoedd parcio beiciau, maes parcio â lleoedd parcio i 600 o geir gan gynnwys lleoedd i ddeiliaid bathodynnau glas, mannau gwefru cerbydau trydan a chyfleuster casglu/gollwng dynodedig
- Ardal bioamrywiaeth wedi’i gwella gyda chynefinoedd cyfoethog eu rhywogaethau a rhwydwaith ffosydd gwell ar gyfer bywyd gwyllt er mwyn lliniaru unrhyw aflonyddwch a cholled a achosir gan y datblygiad
Dywedodd Nigel Roberts, Cadeirydd Datblygiadau Parcffordd Caerdydd: “Rydym wedi defnyddio’r adborth a gawsom yn ystod ein sesiynau ymgysylltu â’r cyhoedd blaenorol, pan wnaethom ymgysylltu â’r gymuned leol a rhanddeiliaid allweddol eraill. Roeddem wrth ein bodd â’r adborth cadarnhaol a defnyddiol a gawsom, yn benodol o’r gymuned leol, a hoffem ddiolch unwaith eto i bawb a rannodd eu syniadau â ni.
“Er gwaethaf yr heriau dros yr ychydig fisoedd diwethaf, rydym wedi bod yn gweithio’n galed er mwyn parhau i ddatblygu ein cynigion. Wrth i ni baratoi i gyflwyno ein cais cynllunio amlinellol, byddwn yn cynnal ymgynghoriad ffurfiol, statudol cyn-ymgeisio i roi cyfle i randdeiliaid a phobl leol rannu eu barn.
“Mae ein cynigion yn cynnig datblygiad cynaliadwy a diogel, gyda chysylltiadau da. Bydd y datblygiad unigryw hwn yn dod â buddsoddiad i’r rhanbarth, yn creu cyfleoedd cyflogaeth newydd ac yn cysylltu pobl â thirwedd hanesyddol. Mae’r prosiect wedi mynd cam ymhellach tuag at gael ei wireddu wrth i ni gyrraedd y garreg filltir nesaf hon, sef yr ymgynghoriad statudol, ac rydym yn edrych ymlaen at glywed barn pobl.”
Cynhelir cyfnod ymgynghori o bum wythnos rhwng dydd Mercher 05 Awst a dydd Mercher 09 Medi 2020. Gofynnir i’r gymuned leol roi adborth ar y cynigion yn ystod y cyfnod hwn. Gall pobl gael mwy o wybodaeth am y prosiect a rhannu eu barn ar-lein.