Mae cam cyntaf y gweithgarwch ymgysylltu â’r cyhoedd am ddatblygiad Llynnoedd Hendre Caerdydd a gorsaf drenau Parcffordd Caerdydd bellach wedi dod i ben. Gwnaethom gynnal cyfnod o ymgysylltu cynnar er mwyn cyflwyno ein hunain i’r gymuned leol a chasglu eich barn am ein cynigion.
Daeth mwy na 250 o bobl i’n digwyddiadau galw heibio yn Llaneirwg a Maerun, a chawsom bron 200 o ymatebion ar-lein a thrwy’r post. Hoffem ddiolch i bawb a ddaeth i gwrdd â ni yn un o’r digwyddiadau a phawb a rannodd eu barn.
Y camau nesaf
Byddwn yn mynd ati nawr i barhau i weithio ar ddyluniad y cynllun, gan ystyried yr adborth rydym wedi ei gael wrth i ni ddatblygu ein cynlluniau ymhellach. Pan fyddwn wedi pennu ein cynlluniau’n derfynol, byddwn yn eu cyflwyno i’r gymuned eu hystyried fel rhan o ail gam yr ymgynghoriad ffurfiol, statudol yn ystod gwanwyn 2020.
Dywedodd Nigel Roberts, Cadeirydd Gweithredol Datblygiadau Parcffordd Caerdydd: “Mae ein cyfnod o ymgysylltu cynnar wedi bod yn llwyddiant mawr. Roeddwn yn falch iawn o rannu ein cynlluniau â’r gymuned, ac rwyf wrth fy modd â’r ymateb a gawsom.
“Mae’r tîm wedi gweithio’n ddiflino dros nifer o flynyddoedd i wireddu’r prosiect hwn, ond nid yw’r gwaith caled wedi dod i ben eto. Nawr, byddwn yn mynd ati i weithio ar ein cynlluniau ar sail y safbwyntiau a’r syniadau a gawsom gan bobl, cyn cysylltu â’r cyhoedd yn ystod y gwanwyn eleni. Rydym yn gobeithio y bydd hyd yn oed mwy o bobl yn cymryd rhan bryd hynny.”
Dywedodd Vaughan Gething, Aelod Cynulliad Cenedlaethol Cymru (AC) dros Dde Caerdydd a Phenarth: “Mae prosiect Parcffordd Caerdydd yn newyddion da i bobl ledled Dinas Caerdydd, yn arbennig i’m hetholwyr sy’n byw yn nwyrain Caerdydd. Mae wedi bod yn uchelgais gennyf ers blynyddoedd lawer i ddatblygu Gorsaf Drenau Parcffordd Caerdydd, er mwyn sicrhau bod cysylltiadau gwell â dwyrain y ddinas. Bydd hyn yn dod â swyddi, twf a buddsoddiad i’n hetholaeth, ac rwyf wrth fy modd â’r cynlluniau.”
I gofrestru i gael y wybodaeth ddiweddaraf, a sicrhau nad ydych yn colli ein hymgynghoriad nesaf, ymunwch â’n rhestr bostio yma: cardiffhendrelakes.com/cy/cysylltu-a-ni/